Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r Datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Dewis Fy NghHTh.

Swyddfa’r Cabinet sy’n cynnal y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrîn
  • llywio i’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
  • llywio i’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r eicon Cwcis yn ail-lifo gyda’r dudalen, felly gall rwystro gwybodaeth bwysig pan fo’r dudalen wedi’i chwyddo
  • ni all y defnyddiwr gyrchu’r llithrydd ‘Cwcis Dadansoddeg’ yn yr Hysbysiad Cwcis ar yr hafan drwy’r bysellfwrdd
  • ar ôl i’r defnyddiwr fynd i dab o’r Hysbysiad Cwcis ‘Reject All’, nid yw’n glir ble mae’r defnyddiwr am nad oes ffocws ar unrhyw beth a does dim byd yn weithredol

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn gwahanol fformat, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille, e-bostiwch choosemypcctechnicalsupport@cabinetoffice.gov.uk.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ateb o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag Adran Etholiadau Swyddfa’r Cabinet drwy
e-bostio choosemypcctechnicalsupport@cabinetoffice.gov.uk.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) (y ‘Rheoliadau Hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’n hateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Swyddfa’r Cabinet yn ymrwymedig i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2).

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan yn rhannol gydymffurfio â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We, Fersiwn 2.1, oherwydd yr ‘elfennau nad ydynt yn cydymffurfio’ isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys isod yn hygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw’r eicon Cwcis yn ail-lifo gyda’r dudalen, felly gall rwystro gwybodaeth bwysig pan fo’r dudalen wedi’i chwyddo. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.1 (ail-lifo). Darperir y swyddogaeth hon gan drydydd parti ac rydym yn chwilio am ddatrysiad ar hyn o bryd. Bwriadwn ei roi ar waith erbyn diwedd 2021.
  • Ni all y defnyddiwr gyrchu’r llithrydd ‘cwcis dadansoddeg’ yn yr Hysbysiad Cwcis ar yr hafan drwy’r bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1 (bysellfwrdd). Darperir y swyddogaeth hon gan drydydd parti ac rydym yn chwilio am ddatrysiad ar hyn o bryd. Bwriadwn ei roi ar waith erbyn diwedd 2021.
  • Ar ôl i’r defnyddiwr fynd i dab o’r Hysbysiad Cwcis ‘Reject All’, nid yw’n glir ble mae’r defnyddiwr am nad oes ffocws ar unrhyw beth a does dim byd yn weithredol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1 (bysellfwrdd). Darperir y swyddogaeth hon gan drydydd parti ac rydym yn chwilio am ddatrysiad ar hyn o bryd. Bwriadwn ei roi ar waith erbyn diwedd 2021.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Medi 2020. Adolygwyd ddiwethaf ar
22 Mawrth 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Swyddfa’r Cabinet.

Yr ymagwedd a gymerom oedd profi pob tudalen ansafonol (hynny yw, yr hafan, hafan pob isadran, a phob tudalen sy’n cynnwys ffurflenni neu dablau), yna sampl o ddwy dudalen arall o bob isadran.