Datganiad hygyrchedd ar gyfer Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu
Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn ymrwymedig i sicrhau bod y wefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Dim ond i wefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol. Nid yw’n berthnasol i Wasanaethau Etholiadol Digidol eraill fel is-feysydd gwasanaeth (er enghraifft, www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio), y mae ganddynt eu datganiadau hygyrchedd eu hunain.
Statws cydymffurfio
Mae gwefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a’r eithriadau y tu allan i’r cwmpas a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
- mae’r cynnwys ar rai rhannau o’r wefan wedi’i gyflwyno ar ffurf HTML anghywir, a all gael effaith negyddol ar y wybodaeth y bydd unigolion sy’n darllen y sgrin yn ei gweld. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Chydberthnasau) WCAG.
- mae blwch chwilio’r wefan (cod post, enw’r ymgeisydd, ardal yr heddlu) wedi’i strwythuro’n anghywir, a all gael effaith negyddol ar y wybodaeth y bydd unigolion sy’n darllen y sgrin yn ei gweld. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Chydberthnasau) a 2.4.6 (Penawdau a Labeli) WCAG.
- nid oes modd gweld y sgrin ar ffôn symudol neu lechen heb sgrolio’n llorweddol yn ogystal â sgrolio’n fertigol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 (Adlif) WCAG.
- mae gan rai o adrannau’r wefan gymhareb cyferbynnedd wael pan gânt eu dewis fel y prif ffocws. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.11 (Cyferbynnedd Deunydd nad yw’n Destun) WCAG.
- wrth ddefnyddio’r swyddogaeth i neidio i’r prif gynnwys, mae’r nodwedd hon yn trosglwyddo i unrhyw dudalen ddilynol ar y wefan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.3 (Gorchymyn Ffocws) WCAG.
- mae rhai o’r botymau ar y wefan yn cynnwys swyddogaethau na fyddant o bosibl yn glir i unigolion sy’n darllen y sgrin pan fyddant yn eu gweld allan o’u cyd-destun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.6 (Penawdau a Labeli) WCAG.
- caiff y ffocws ei golli wrth symud at logo Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu gan ddefnyddio bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.7 (Ffocws yn Weladwy) WCAG.
- mae’r ffocws yn cael ei guddio wrth symud allan o’r faner cydsynio i gwcis. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.11 (Ffocws heb ei Guddio) WCAG.
- mae HTML wedi’i gymhwyso at elfennau anghydnaws ar rai rhannau o’r wefan, a allai gael effaith negyddol ar y wybodaeth y bydd unigolion sy’n darllen y sgrin yn ei gweld. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) WCAG.
Baich anghymesur
Gan mai’r bwriad yw diddymu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, rydym wrthi’n cynnal asesiad baich anghymesur o’r wefan. Gallai hyn olygu na fydd yn rhaid i ni ddatrys y problemau a restrir uchod.
Rydym yn bwriadu cwblhau’r asesiad erbyn 31 Gorffennaf 2026, ac os na fyddwn yn bwriadu datrys y problemau, byddwn yn esbonio pam.
Byddwch yn gallu cysylltu â ni o hyd i gael help gydag unrhyw broblemau hygyrchedd y byddwch yn dod ar eu traws tra bydd gwefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu yn parhau’n wasanaeth digidol byw.
Y tu allan i’r cwmpas
Nid yw’r cynnwys canlynol yn dod o dan gwmpas y rheoliadau hygyrchedd:
- unrhyw daflenni yn cynnwys gwybodaeth am ymgeiswyr y byddwch yn gwneud cais amdanynt drwy wefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan mai cyfryngau wedi’u hargraffu yw’r taflenni hyn.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 9 Mehefin 2026. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 18 Mehefin 2026.
Profwyd gwefan Dewis Fy Nghomisiynydd Heddlu a Throseddu ddiwethaf ar 2 Mawrth 2026 yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Cyflawnwyd hyn gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd ychwanegol gyda’r gwasanaeth hwn, rhowch wybod i ni drwy:
Y weithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r EquGwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).