Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Sam Bennett

Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, fy mhrif flaenoriaeth fydd adfer ffydd, cysylltiadau ac ymgysylltiad cymunedol ar draws ardal Heddlu De Cymru.

Rhaid inni adennill ffydd y gymuned yn ein heddlu yn dilyn yr aflonyddwch yn Abertawe a Chaerdydd dros y 5 mlynedd diwethaf. Byddaf yn ceisio gwrthdroi toriadau i gyllid ar gyfer ymyriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Rwyf hefyd am flaenoriaethu gweithgareddau allgymorth mewn cymunedau ac ysgolion i adeiladu pontydd ar draws ein cymunedau, gan olygu bod ein heddlu i’w gweld ar ein strydoedd unwaith eto.

Byddaf yn lleihau nifer y Dirprwy Gomisiynwyr ar draws Heddlu De Cymru, ac yn ail-fuddsoddi’r arian mewn plismona ar lawr gwlad. Byddaf hefyd yn ymgyrchu’n frwd dros ddatganoli plismona. Bydd y ddau bolisi hyn yn dod â phlismona yn nes at bobl Cymru. Byddaf yn lansio rhaglen o ymweliadau cymunedol ar unwaith i gael gwybod beth hoffech chi weld yr heddlu yn ei wneud yn eich ardal.

Nawr yw’r amser i fabwysiadu agwedd fwy tosturiol at droseddau cyffuriau. Felly, os caf fy ethol yn Gomisiynydd, byddaf yn blaenoriaethu ac yn gwthio’r ddwy lywodraeth i ganolbwyntio ar raglenni adsefydlu, oherwydd bydd hyn yn lleihau aildroseddu, ac yn lleddfu’r pwysau ar ein system llysoedd.

Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, byddwn yn ceisio dod â’r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau i ben gan ei fod yn amharu’n sylfaenol ar hawliau pobl i breifatrwydd ac yn gwahaniaethu yn erbyn poblogaethau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Fe’i defnyddir yn amlach mewn ardaloedd â phoblogaethau lleiafrifoedd ethnig uchel, ond nid yw’n adnabod pobl o’r cefndiroedd hyn yn effeithiol. Rhaid rhoi’r dechnoleg hon o’r neilltu i adennill ffydd ein cymunedau.

Paratowyd gan Matthew Palmer (Asiant Etholiad) yn 68 Brynymor Road, Gowerton, Swansea, SA4 3EZ

Manylion Cyswllt

https://www.demrhydd.cymru/

Ymgeiswyr eraill yng De Cymru

Dennis Clarke

Plaid Cymru The Party of Wales

Darllen mwy
Dennis Clarke - Portrait

George Carroll

Conservative Candidate – More Police, Safer Streets

Darllen mwy
George Carroll - Portrait

Emma Wools

Labour and Co-operative Party / Llafur a’r Blaid Gydweithredol

Darllen mwy
Emma Wools - Portrait