Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Emma Wools

Yma yn Ne Cymru cefais fy ngeni, fy magu, rwyf yn byw ac yn  gweithio. Mae fy nghalon a’m cartref yma yn ein dinasoedd bywiog, cymunedau tosturiol a threfi’r cymoedd lle rwyf wedi darparu gwasanaethau i atal trosedd ac amddiffyn y cyhoedd rhag niwed ers dros 23 mlynedd. Yn arweinydd arobryn, mae gennyf sgiliau a gwybodaeth o weithio mewn carchardai a’r gwasanaeth prawf, plismona a diogelwch cymunedol, a byddaf yn lleisio’ch barn ym maes plismona ac yn sefyll eich cornel ar y materion sy’n bwysig i chi.

Mae pobl De Cymru angen Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy’n gwybod yn uniongyrchol yr heriau sy’n ein hwynebu bob dydd yn ein cymunedau. Mae gen i’r profiad personol a phroffesiynol o fynd i’r afael â’r drosedd a’r niwed sy’n effeithio ar ble rydyn ni’n byw, ein teuluoedd a’n ffrindiau.

Mae gennyf hanes profedig o herio plismona a chyfiawnder troseddol fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Rwyf wedi arwain a rheoli partneriaethau ar draws cyfiawnder troseddol: mynd i’r afael â thrais ieuenctid, trais yn erbyn menywod a merched, cyffuriau a chamfanteisio. Rwy’n angerddol am weithio i wella bywydau’r rhai y mae eu llais yn cael ei glywed yn llai aml, ond yn aml yn dioddef fwyaf, er mwyn sicrhau bod cyfiawnder yn deg a bod plismona yn cyflawni’r hyn sydd bwysicaf.

Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu byddaf yn canolbwyntio ar….

• Plismona Cymunedol

• Atal trosedd

• Amddiffyn y bregus, cefnogi dioddefwyr a chymunedau, gan gynnwys y rhai ar-lein

• Rhoi Cyfiawnder i’r rhai sy’n troseddu a lleihau aildroseddu

• Gwneud Plismona yn addas ar gyfer y dyfodol

Pleidleisiwch i mi ar 2 Mai a byddaf yn gweithio gyda chi i gryfhau a gwella dyfodol plismona a chyfiawnder troseddol yn Ne Cymru, gan ddarparu gwasanaethau i’ch cadw’n ddiogel, y gall pob cymuned fod â hyder ynddynt.

Paratowyd gan Alvin Shum (Asiant Etholiad) yn 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA

Ymgeiswyr eraill yng De Cymru

Dennis Clarke

Plaid Cymru The Party of Wales

Read more
Dennis Clarke - Portrait

George Carroll

Conservative Candidate – More Police, Safer Streets

Read more
George Carroll - Portrait

Sam Bennett

Welsh Liberal Democrats - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Read more
Matthew Palmer - Portrait