Emma Wools
Yma yn Ne Cymru cefais fy ngeni, fy magu, rwyf yn byw ac yn gweithio. Mae fy nghalon a’m cartref yma yn ein dinasoedd bywiog, cymunedau tosturiol a threfi’r cymoedd lle rwyf wedi darparu gwasanaethau i atal trosedd ac amddiffyn y cyhoedd rhag niwed ers dros 23 mlynedd. Yn arweinydd arobryn, mae gennyf sgiliau a gwybodaeth o weithio mewn carchardai a’r gwasanaeth prawf, plismona a diogelwch cymunedol, a byddaf yn lleisio’ch barn ym maes plismona ac yn sefyll eich cornel ar y materion sy’n bwysig i chi.
Mae pobl De Cymru angen Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy’n gwybod yn uniongyrchol yr heriau sy’n ein hwynebu bob dydd yn ein cymunedau. Mae gen i’r profiad personol a phroffesiynol o fynd i’r afael â’r drosedd a’r niwed sy’n effeithio ar ble rydyn ni’n byw, ein teuluoedd a’n ffrindiau.
Mae gennyf hanes profedig o herio plismona a chyfiawnder troseddol fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Rwyf wedi arwain a rheoli partneriaethau ar draws cyfiawnder troseddol: mynd i’r afael â thrais ieuenctid, trais yn erbyn menywod a merched, cyffuriau a chamfanteisio. Rwy’n angerddol am weithio i wella bywydau’r rhai y mae eu llais yn cael ei glywed yn llai aml, ond yn aml yn dioddef fwyaf, er mwyn sicrhau bod cyfiawnder yn deg a bod plismona yn cyflawni’r hyn sydd bwysicaf.
Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu byddaf yn canolbwyntio ar….
• Plismona Cymunedol
• Atal trosedd
• Amddiffyn y bregus, cefnogi dioddefwyr a chymunedau, gan gynnwys y rhai ar-lein
• Rhoi Cyfiawnder i’r rhai sy’n troseddu a lleihau aildroseddu
• Gwneud Plismona yn addas ar gyfer y dyfodol
Pleidleisiwch i mi ar 2 Mai a byddaf yn gweithio gyda chi i gryfhau a gwella dyfodol plismona a chyfiawnder troseddol yn Ne Cymru, gan ddarparu gwasanaethau i’ch cadw’n ddiogel, y gall pob cymuned fod â hyder ynddynt.
Paratowyd gan Alvin Shum (Asiant Etholiad) yn 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA