Richard Marbrow
Dylai’r blaenoriaethau plismona yn y gogledd adlewyrchu amrywiaeth yr anghenion yn yr ardal. Rwy’n byw yn yr Wyddgrug, yn y dwyrain, ond mi fydda i’n Gomisiynydd ar gyfer pob rhan o Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae troseddau gwledig yn broblem a ddylai gael sylw yng Ngogledd Cymru, ond mi fydda i’n blaenoriaethu dau fater arall sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Y cyntaf yw troseddau treisgar sy’n effeithio ar ferched a genethod. Fel eich Comisiynydd, mi fydda i’n cyflwyno prosiectau diogelwch cymunedol, a bydd gwneud i ferched a genethod deimlo’n fwy diogel ar draws ein cymunedau yn flaenoriaeth i’r Heddlu. Dylai merched deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac ar nosweithiau allan, a dylai pob merch ifanc allu tyfu i fyny heb ofni bod eu rhywedd yn eu rhoi mewn perygl.
Nid yw’n dderbyniol bod cyfraddau erlyn mor isel ac nad yw merched yn teimlo eu bod yn gallu dirwyn achosion i ben. Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu rôl hanfodol a dyletswydd i wneud yn siŵr bod merched a genethod ar draws y rhanbarth yn teimlo bod Gogledd Cymru yn lle diogel.
Mynd i’r afael ag effaith seiberdroseddu yn ein cymuned yw fy ail flaenoriaeth. Sgamiau a mynediad diawdurdod at ddata sy’n cael sylw yn y newyddion ond yn rhy aml rydym yn anghofio am y rhai sy’n cyflawni’r troseddau hyn a’r bobl sy’n cael eu heffeithio. Gan fod gen i brofiad proffesiynol ym maes Diogelu Data, byddaf yn gallu arwain blaenoriaethau yn y maes hwn a rhoi cynlluniau ar waith i helpu i atal y troseddau hyn yn ogystal â helpu dioddefwyr.
Mae pob pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad hwn yn bleidlais i wthio’r blaenoriaethau hyn ymlaen.
Paratowyd yr araith gan Michael O’Carroll (Asiant), yn The Temperance Hall, Tallarn Green, Malpas, SY14 7LL.
Manylion Cyswllt
https://www.demrhydd.cymru
richard@richardmarbrow.wales