Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Andy Dunbobbin

Mae’n anrhydedd i mi wasanaethu fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru, gyda’m ffocws yn gadarn ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae’r tair blynedd diwethaf wedi mynd yn gyflym, gyda phlismona – yn eithaf cywir – yn wynebu craffu aruthrol.

Fodd bynnag, er gwaethaf heriau cenedlaethol a lleol, credaf fy mod wedi arwain yn effeithiol a chynrychioli ein cymunedau yn dda..  Wrth i mi edrych eto am eich cefnogaeth yn yr etholiad hwn, byddaf yn parhau i’ch rhoi chi, eich teuluoedd a’n cymunedau wrth wraidd fy ymdrechion.

Plismona cymdogaeth yw – a bydd bob amser – fy mhrif flaenoriaeth. Gyda fy ffocws yn gadarn ar atal trosedd

Yng Ngogledd Cymru, mae troseddu cyffredinol i lawr 13.5% ac mae perfformiad ar i fyny.  Yn ôl arolwg diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, eich heddlu yw’r gorau yng Nghymru a Lloegr o ran hyder y cyhoedd.  Yr ail ffigur isaf yn genedlaethol ar gyfer cyfraddau troseddau a gofnodwyd fesul 1000 o’r boblogaeth.

Ac nid yw hyn yn digwydd ar ei ben ei hun. Gyda Llafur Cymru, mae gennym drefniadau cryf, effeithiol a chydweithredol ar waith. Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched yn enghreifftiau gwych sy’n cefnogi ein cymunedau’n dda.

Mae fy null gwasanaeth heddlu cymunedol (COPS) wedi bod yn llwyddiannus, gan ddatblygu fy ngweledigaeth yn bedair piler strategol:

 

PRESENOLDEB PLISMONA CYMDOGAETH LEOL.

CEFNOGI DIODDEFWYR, CYMUNEDAU A BUSNESAU.

SYSTEM CYFIAWNDER TROSEDDOL DEG AC EFFEITHIOL.

COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU GWELADWY A CHYFRIFOL.

 

Mae fy ngwybodaeth a’m profiad wedi arwain at ddal cyfrifoldebau fel Cadeirydd Plismona yng Nghymru ac arweinydd CHTh ar gyfer sawl menter dechnoleg.

Byddwn wrth fy modd i gael fy’n ailethol ac i barhau i wneud ein cartref y lle mwyaf diogel i fyw, weithio ac ymweld.

Mae’r datganiad hwn wedi paratoi gan Michelle Perfect, 33 Henry Taylor Street, Flint CH6 5PP

Ymgeiswyr eraill yng Gogledd Cymru

Ann Griffith

Plaid Cymru - The Party of Wales

Read more
Ann Griffith - Portrait

Richard Marbrow

Welsh Liberal Democrats / Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Read more
Richard Marbrow - Portrait

Brian Jones

Welsh Conservative Party Candidate / Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru

Read more
Brian Jones - Portrait