Brian Jones
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, rwy’n addo mynd i’r afael ag anghenion amrywiol Gogledd Cymru drwy flaenoriaethu’r canlynol:
Sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn cael cyn lleied o bwysau â phosibl ar eu hadnoddau a’u costau wrth ymwneud â’r polisi 20mya cyffredinol Llywodraeth Cymru ond yn parhau i gydweithio ag asiantaethau partner a’r sector gwirfoddol ar gyfer ffyrdd mwy diogel.
Cefnogi ein ffermwyr gan frwydro yn erbyn troseddau cefn gwlad megis tipio anghyfreithlon, dwyn da byw ac offer, ynghyd â chynnig fy nghefnogaeth yn erbyn gweithredoedd niweidiol Llywodraeth Cymru tuag at y gymuned wledig.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol trwy ddefnyddio dull synnwyr cyffredin i adfer parch tuag at Heddlu Gogledd Cymru trwy sicrhau bod preswylwyr yn gallu gweld, a chael mynediad at Swyddogion Heddlu yn eu Cymunedau Lleol, Ysgolion, a mannau cyhoeddus eraill yn rhwyddach nag ar hyn o bryd. Bydd hyn yn lleihau’r lefelau annerbyniol o ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd.
Cam-drin Domestig a thrais a fydd yn cynnwys ymddygiad gorfodol. Bydd hyn yn flaenoriaeth yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu.
Troseddau Seiber Ar-lein h.y.. troseddau cam-drin/casineb ynghyd â thwyll a sgamiau drwy sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gael.
Grwpiau troseddau trefnedig mewn perthynas â llinellau cyffuriau, camfanteisio’n rhywiol ar blant trwy ddull cydgysylltiedig â heddluoedd eraill a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Polisi Lladrata o Siopa ffurfiol wedi’i gydlynu rhwng yr Heddlu a’r Prif Fanwerthwyr.
Mae pob un ohonoch yn bwysig i mi ac er mwyn cydnabod hyn byddaf yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd ledled y Rhanbarth i sicrhau fy mod yn gweithio AR EICH RHAN ac yn bwysicach GYDA chi i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i’n holl breswylwyr ac ymwelwyr
Paratowyd yr anerchiad etholiadol hwn gan Bernard Gentry, CCHQ Gogledd Cymru, Llawr 1af Commodore House, Abergele, LL22 8LJ
Manylion Cyswllt
brian.jones@northwalesconservatives.org.uk
fb.com/BrianJonesForNorthWalesPCC