Ann Griffith
LLAIS CRYF DROS GYFIAWNDER A’R DIODDEFWYR
Fy enw i yw Ann Griffith a fi yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer rôl Gogledd Cymru Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Ges i fy mhenodi gan Arfon Jones fel ei Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, ac roeddwn yn gyfrifol am Blant a Phobl Ifanc, Caethwasiaeth Fodern, Cam-drin Domestig, Merched a chyfiawnder, Safonau proffesiynol a Gwrth-lygredd.
Rwyf wedi gweithio ers 40 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol proffesiynol/rheoli gwaith cymdeithasol ar draws gogledd Cymru yn y sector gyhoeddus a gwirfoddol gyda phob math o grwpiau bregus. Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol ehangach i gefnogi dioddefwyr troseddau.
Mae dioddefwyr trosedd yn dweud wrtha’i eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi ac yn cael eu siomi. Mae fy mhrofiad bywyd, gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd yn golygu fy mod yn deall ac yn ymrwymo i wella’r system cyfiawnder troseddol i bawb.
Os caf fy ethol byddaf yn canolbwyntio ar atal troseddu ac ail-droseddu drwy gynyddu amlygrwydd a hygyrchedd yr heddlu, ymyrraeth gynnar ac ataliaeth a defnyddio mentrau datrys problemau arloesol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Byddaf yn craffu’n fanwl ar ymateb yr heddlu i drais, rheolaeth drwy orfodaeth a stelcian tuag at fenywod a merched, troseddu a chamymddwyn rhywiol yn erbyn plant ac oedolion bregus a throseddau difrifol gangiau.
Ar hyn o bryd rydw i’n ymgynghorydd amddiffyn plant annibynnol ac yn hyfforddwr dysgu arweinyddiaeth i uwch reolwyr gofal cymdeithasol.
Mae fy mhrofiad o arwain a hanes o annibyniaeth yn fy ngalluogi i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif, gwneud Heddlu Gogledd Cymru yn fwy effeithiol ac effeithlon a sicrhau bod ein cymunedau gwledig a threfol yn ddiogel i ffynnu.
Mae’r datganiad yma wedi ei pharatoi ar ran yr ymgeisydd gan ei hasiant, Marc Jones, o 7 Stryt Gerallt, Wrecsam, LL11 1EH.
Manylion Cyswllt
anngriffithplaidcymru@gmail.com
@AnnGriffPlaid
https://www.facebook.com/AnnGriffithPlaidCymru