Andy Dunbobbin
Mae’n anrhydedd i mi wasanaethu fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru, gyda’m ffocws yn gadarn ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
Mae’r tair blynedd diwethaf wedi mynd yn gyflym, gyda phlismona – yn eithaf cywir – yn wynebu craffu aruthrol.
Fodd bynnag, er gwaethaf heriau cenedlaethol a lleol, credaf fy mod wedi arwain yn effeithiol a chynrychioli ein cymunedau yn dda.. Wrth i mi edrych eto am eich cefnogaeth yn yr etholiad hwn, byddaf yn parhau i’ch rhoi chi, eich teuluoedd a’n cymunedau wrth wraidd fy ymdrechion.
Plismona cymdogaeth yw – a bydd bob amser – fy mhrif flaenoriaeth. Gyda fy ffocws yn gadarn ar atal trosedd
Yng Ngogledd Cymru, mae troseddu cyffredinol i lawr 13.5% ac mae perfformiad ar i fyny. Yn ôl arolwg diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol, eich heddlu yw’r gorau yng Nghymru a Lloegr o ran hyder y cyhoedd. Yr ail ffigur isaf yn genedlaethol ar gyfer cyfraddau troseddau a gofnodwyd fesul 1000 o’r boblogaeth.
Ac nid yw hyn yn digwydd ar ei ben ei hun. Gyda Llafur Cymru, mae gennym drefniadau cryf, effeithiol a chydweithredol ar waith. Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched yn enghreifftiau gwych sy’n cefnogi ein cymunedau’n dda.
Mae fy null gwasanaeth heddlu cymunedol (COPS) wedi bod yn llwyddiannus, gan ddatblygu fy ngweledigaeth yn bedair piler strategol:
PRESENOLDEB PLISMONA CYMDOGAETH LEOL.
CEFNOGI DIODDEFWYR, CYMUNEDAU A BUSNESAU.
SYSTEM CYFIAWNDER TROSEDDOL DEG AC EFFEITHIOL.
COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU GWELADWY A CHYFRIFOL.
Mae fy ngwybodaeth a’m profiad wedi arwain at ddal cyfrifoldebau fel Cadeirydd Plismona yng Nghymru ac arweinydd CHTh ar gyfer sawl menter dechnoleg.
Byddwn wrth fy modd i gael fy’n ailethol ac i barhau i wneud ein cartref y lle mwyaf diogel i fyw, weithio ac ymweld.
Mae’r datganiad hwn wedi paratoi gan Michelle Perfect, 33 Henry Taylor Street, Flint CH6 5PP