Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Mike Hamilton

Mae Heddlu Gwent yn sefydliad sy’n methu. Nid yw’r cyhoedd yn ymddiried ynddo oherwydd ei lu o fethiannau. O ganlyniad i’w ddiwylliant hen ffasiwn, neu’r canteen culture, mae nifer wedi bod yn destun ymchwiliad am gamymddygiad difrifol, ac mae llawer yn ymddiswyddo cyn bod modd eu diswyddo. Mae rhai wedi galw am iddo gael ei roi o dan fesurau arbennig neu’n destun ymchwiliad annibynnol. Mae’r sefydliad yn destun nifer o ymchwiliadau parhaus o hyd, gan gynnwys un i’r diwylliant gwenwynig a amlygwyd yn y negeseuon testun a roddwyd i bapur newydd y Times. Cafwyd adroddiad damniol gan Arolygiaeth yr Heddlu yn 2023 a ddatgelodd lu o fethiannau.

Ond nid oes angen Arolygiaeth yr Heddlu na’r cyfryngau arnoch i wybod bod Heddlu Gwent yn methu – mae’r methiannau i’w gweld yn glir. Roedd fy ward yn ninas Casnewydd yn ardal dawel a diogel ddegawd yn ôl, ond mae’n teimlo fel bod yr heddlu wedi anghofio amdani erbyn hyn. Pan godir materion, mae ymateb yr heddlu yn drahaus ac yn nawddoglyd.

Os caf fy ethol:

•   Bydd y Prif Gwnstabl newydd yn cael ei recriwtio o’r tu allan i’r heddlu;

•   Byddwn yn ailgyflwyno plismona cymunedol h.y. siarad â’r cyhoedd yn hytrach na chuddio rhagddynt, yn ogystal ag annog cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth;

•   Byddwn yn ymchwilio i bob trosedd, gan fod delio â mân droseddau yn lleihau troseddau yn gyffredinol;

•   Mae angen gweddnewid pethau ar lefel yr uwch-reolwyr, fel y nodwyd yn adroddiad yr Arolygiaeth yn 2023;

•   Mae angen i’r gweithdrefnau fetio wrth recriwtio fod yn addas i’r diben; nid ydym am gael unrhyw achos tebyg i Wayne Couzens yma;

•   Byddwn yn ystyried a oes modd ailagor desgiau blaen gorsafoedd heddlu, gan fod angen i’r heddlu a’r cyhoedd fod mewn cysylltiad uniongyrchol;

•   Byddwn yn rhoi trefn ar lanast rhif ffôn 101, gan nad yw’n addas o gwbl ar hyn o bryd;

•   Byddwn yn dyrannu mwy o adnoddau i ddatrys troseddau. Mae cyfradd euogfarnau Heddlu Gwent yn warthus.

Paratowyd yr araith gan Michael O’Carroll (Asiant), yn 12 Jackson Place, Newport, NP19 8FR.

Manylion Cyswllt

https://www.demrhydd.cymru/

mikehamiltonforGwentPCC@gmail.com

Ymgeiswyr eraill yng Gwent

Hannah Jarvis

Conservative Candidate - More Police, Safer Streets

Read more
Hannah Jarvis - Portrait

Donna Cushing

Plaid Cymru - The Party of Wales

Read more
Donna  Cushing - Portrait

Jane Helen Mudd

Labour and Co-operative Party/ Llafur a'r Blaid Gydweithredol

Read more
Jane Helen  Mudd - Portrait