Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Jane Helen Mudd

Jane Helen Mudd – Labour and Co-operative Party/ Llafur a’r Blaid Gydweithredol

Rwyf yn arweinydd profiadol, aelod cabinet ac yn gynghorwr etholedig.

Effeithiol mewn gweithio mewn partneriaeth ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;

cadeirydd o Bartneriaeth Casnewydd Fel Un ac yn gynrychiolydd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

Fi yw llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar faterion Diogelwch Cymunedol, yn cynrychiolu pob 22 awdurdod lleol ac yn

gyd-gadeirydd o Fwrdd Diogelch Cymunedol Cymru.

Rwyf wedi ymrwymo fy hun i wasanaeth cyhoeddus, gan ddangos arweiniaeth grêf a barn gadarn.

Mae angen plismona da ar gymunedau diogel a chynaliadwy

Byddaf yn gweithio gyda Heddlu Gwent, ein dinasyddion, partneriaid a rhanddeiliaid i gadw at adeiladu hyder yn ein plismona a chyfiawnder troseddol, yn sicrhau bod plismona yn weladwy ac yn gysylltiedig â chymunedau.

Mae plismona da yn gofyn am dryloywder ac atebolrwydd

Byddaf yn sicrhau bod eich lleisiau’n cael eu clywed; bod eich pryderon yn cael eu blaenoriaethu a bod arweinwyr yr heddlu yn cael eu dwyn i gyfrif.

Byddaf yn blaenoriaethu eich diogelwch; yn y gwaith, mewn cymunedau, ar y Strydoedd

  • Amddiffyn y ddiamddiffyn, mund i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, mynd i’r afael a throseddau casineb.
  • Canolbwyntio comisiynu ar ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, cefnogi mentrau sydd wedi eu hanelu at atal troseddau ieuenctid, cefnogi dioddefwyr.
  • Cefnogi ymgyrchoedd i amddiffyn staff manwerthu a lletygarwch yn y gweithle.
  • Sicrhau bod Heddlu Gwent yn blaenoriaethu mynd i’r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae gwrando arnoch chi yn bwysig i mi. Rwyn deall pryderon ein cymunedau yng Ngwent, ein cymoedd, cymunedau gwledig, trefi a dinas.

Am strydoedd mwy diogel a chymunedau cryfach, llais cryf ac effeithiol a phresenoldeb gweladwy ar draws Gwent, pleileisiwch Jane Mudd ar yr 2il of Fai.

 

Hyrwyddwyd gan Deb Davies ar ran Jane Mudd i gyd yn CWU, Moss Building, Mill Street, Casnewydd NP20 5PA

Manylion Cyswllt

Janemudd4pcc24@gmail.com

Facebook: Janemudd4pcc24@gmail.com

X: CllrJaneMudd

Ymgeiswyr eraill yng Gwent

Hannah Jarvis

Conservative Candidate - More Police, Safer Streets

Darllen mwy
Hannah Jarvis - Portrait

Donna Cushing

Plaid Cymru - The Party of Wales

Darllen mwy
Donna  Cushing - Portrait

Mike Hamilton

Welsh Liberal Democrats / Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Darllen mwy
Mike Hamilton - Portrait