Justin Griffiths
Os caf fy ethol, fy nod fydd rhoi gwasanaeth plismona mwy agored ac atebol ar waith yn y gymuned.
Byddwn yn ceisio ailgyflwyno plismona cymunedol priodol gan wneud yn siŵr bod swyddogion i’w gweld yn ein cymunedau ac nad ydynt yn cael eu dargyfeirio i feysydd eraill. Bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth hefyd, yn ogystal â rhoi argymhellion Comisiwn Thomas ar waith o ran datganoli pwerau.
Byddwn yn gweithredu gwasanaeth plismona tecach a mwy tosturiol e.e. pwyslais ar roi troseddwyr cyffuriau ar raglenni adsefydlu. Dyma enghraifft o sut rydym yn ystyried y cyd-destun cyfan wrth leihau aildroseddu a gostwng nifer yr achosion llys sy’n cronni a nifer y bobl yn ein carchardai gorlawn.
Paratowyd yr araith gan Michael O’Carroll (Asiant), yn 4 Watergate, Brecon, LD3 9AN.
Manylion Cyswllt
https://www.demrhydd.cymru
Ymgeiswyr eraill yng Dyfed-Powys


