Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Dafydd Llywelyn

Fel eich Comisiynydd presennol, mae plismona gweithredol, rheng flaen wedi dod o flaen gwleidyddiaeth pleidiol. Mae gennyf hanes cryf o gyflawni fy addewidion ac o wrando ar gymunedau Dyfed Powys. Rwy’n falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni ers 2016, ond mae cymaint i’w wneud o hyd.

Rwy’n unigolyn hawdd mynd ato ac rwy’n credu mewn gwrando ar bob aelod o’r gymuned er mwyn sicrhau heddlu llwyddiannus.

Ers 2016, rwyf wedi cynyddu adnoddau tra hefyd yn cadw’r lefelau treth gyngor isaf yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweld:

  • 150 yn fwy o Swyddogion Heddlu;
  • 150 yn fwy o Staff yr Heddlu;
  • System TCC sy’n cael ei monitro 24/7 gan staff yr heddlu;
  • Tîm troseddau gwledig penodedig;
  • Ffocws ar ddelio cyffuriau llinellau sirol i dargedu troseddau trefniadol;
  • Buddsoddi mewn Timau Troseddau Ieuenctid i ddargyfeirio pobl ifanc oddi wrth droseddu;
  • Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr newydd i leihau aildroseddu.

Os byddaf yn cael fy ailethol:

  • Byddaf yn diogelu adnoddau Plismona Bro gan gadw presenoldeb plismona lleol gweladwy;
  • Byddaf yn buddsoddi yn y Ganolfan Gyfathrebu i sicrhau gwasanaeth hygyrch;
  • Byddaf yn parhau i roi’r dioddefwr wrth galon y gwasanaeth a datblygu gwasanaeth a arweinir gan ddioddefwyr;
  • Byddaf yn gweithio gyda staff gweithredol i gadw gorsafoedd heddlu lleol ar agor;
  • Byddaf yn buddsoddi mewn rhaglen Heddlu Ysgol newydd ac wedi’i hadnewyddu i gyflawni gwaith ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol;
  • Byddaf yn blaenoriaethu gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ac asiantaethau i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Eich diogelwch yw fy mhrif flaenoriaeth. Rwyf am sicrhau bod Heddlu Dyfed Powys yn parhau i fod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw ynddo yng Nghymru a Lloegr.

Hyrwyddwyd gan Arwel Lloyd, Pengwern, Rhydargaeau, Caerfyrddin, SA32 7DT.

Manylion Cyswllt

https://www.plaid.cymru/police_commissioners

d.llywelyn@btinternet.co.uk

Facebook

https://www.facebook.com/DafyddLlywelyn2021

X

x.com/dafyddllywelyn?s=11&t=SZtVpWOqrHfQkBDeTi-pyQ

Instagram

https://www.instagram.com/dafyddllywelynpcc/

Ymgeiswyr eraill yng Dyfed-Powys

Ian Harrison

Conservative Candidate – More Police, Safer Streets

Read more
Ian Harrison - Portrait

Philippa Ann Thompson

Labour and Co-operative Party / Llafur a'r Blaid Gydweithredol

Read more
Philippa Ann Thompson - Portrait

Justin Griffiths

Welsh Liberal Democrats / Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Read more
Justin Griffiths - Portrait