Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Polisi preifatrwydd a chwcis

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol, a’ch hawliau. Cyhoeddir yr hysbysiad yn unol ag Erthyglau 13 ac/neu 14 y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Eich data

Diben

Y dibenion ar gyfer prosesu eich data personol yw:

  • darparu enwau a chyfeiriadau ymgeiswyr sy’n sefyll i’w hethol yn Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
  • darparu gwybodaeth arall am ymgeiswyr a allai fod yn ddefnyddiol i’r cyhoedd, a
  • darparu’r wybodaeth hon ar ffurf brintiedig i aelodau’r cyhoedd sy’n gofyn am hynny.

Y data

Byddwn yn prosesu’r data personol dilynol:

  • Mewn perthynas ag ymgeiswyr, eu henw, ffotograff, manylion cyswllt ac enw a chyfeiriad asiant etholiadol yr ymgeisydd.
  • Enwau, cyfeiriad a manylion cyswllt Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (PARO) ar gyfer yr etholiad.
  • Enwau a chyfeiriadau etholwyr i archebu copïau printiedig o lyfryn yr ymgeisydd.

Sail gyfreithiol prosesu

Dyma’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol:

  • Mewn perthynas ag enwau a chyfeiriadau ymgeiswyr, manylion y PAROs, a manylion y sawl sy’n gofyn am gopïau printiedig:
    – Mae hynny’n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a osodir arnom fel y rheolwr data. Yn yr achos hwn, erthygl 52 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 yw hynny.
  • Mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth arall a gyhoeddir am ymgeiswyr neu eu hasiantau: mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data.

Derbynwyr

Gall y cyhoedd chwilio am wybodaeth am ymgeiswyr trwy gyfrwng gwefan www.choosemypcc.org.uk trwy nodi enw’r ymgeisydd.

Gellir gweld cyfeiriadau pob ymgeisydd a’r datganiad PARO trwy gyfrwng y wefan wrth ddewis yr ardal heddlu berthnasol neu nodi cod post.

Bydd data hefyd yn cael ei rannu â’n cyflenwyr TG sy’n darparu ein gwefan a’n lletya.

Bydd y data ynghylch y sawl sy’n archebu llyfrau yn cael eu rhannu’n allanol â’r hargraffwyr, APS Group.

Bydd data personol yn cael eu storio ar ein seilwaith TG, felly cânt eu rhannu hefyd â’n proseswyr data sy’n darparu gwasanaethau e-bost a rheoli a storio dogfennau.

Cadw

Bydd y wybodaeth a ddarperir ynghylch cyfeiriadau ymgeiswyr yn cael ei chadw nes bydd amserlen etholiad nesaf Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi’i chynnal. Ond pan fydd gwybodaeth wedi cael ei chyhoeddi ar y rhyngrwyd, gellir ei chopïo a’i storio mewn ffyrdd na allwn ni eu rheoli.

Caiff enwau, cyfeiriad a manylion cyswllt Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (PARO) ar gyfer yr etholiad eu cadw tan y cynhelir yr etholiad PCC nesaf sydd wedi’i drefnu. Ond pan fydd gwybodaeth wedi cael ei chyhoeddi ar y rhyngrwyd, gellir ei chopïo a’i storio mewn ffyrdd na allwn ni eu rheoli.

Bydd y wybodaeth ynghylch y sawl sy’n archebu llyfrynnau ymgeiswyr yn cael ei dinistrio 30 diwrnod ar ôl ei derbyn.

Lle na chafwyd data personol gennych

Os ydych chi’n ymgeisydd, cawsom eich data personol gan eich PARO lleol.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth ynghylch sut y caiff eich data personol eu prosesu, ac i ofyn am gopi o’r data personol hynny.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro unrhyw wallau yn eich data personol yn ddi-oed.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn, gan gynnwys trwy ddatganiad atodol.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael dileu eich data personol os nad oes cyfiawnhad i’w prosesu.

Mae gennych yr hawl o dan rai amgylchiadau (er enghraifft, lle caiff cywirdeb ei herio) i ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol.

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol ble cânt eu prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Ar gyfer data ychwanegol a gyhoeddir am ymgeiswyr sydd oddi allan i’n rhwymedigaethau cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Gan y bydd eich data personol wedi’u storio ar ein hisadeiledd TG, a’u rhannu gyda’n proseswyr data, mae’n bosib y caiff eu trosglwyddo a’u storio’n ddiogel y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Os felly, bydd yn destun amddiffyniad cyfreithiol cyfatebol trwy benderfyniad digonolrwydd neu ddefnyddio Cymalau Contract Enghreifftiol.

Bydd yr holl ddata a rennir â’r APS Group yn cael eu storio yn y DU.

Gellir trosglwyddo a storio data sy’n cael eu cynnal ar ein gwefan ac sy’n cael eu rhannu gyda’n darparwr cynnal yn ddiogel y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Lle bod hynny’n wir, bydd y data yn destun amddiffyniad cyfreithiol cyfatebol trwy Gymalau Contract Enghreifftiol. Sylwer y gellir cyrchu’r ddata yn ogystal â’u cadw yn unrhyw le ar ôl eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd.

Manylion cyswllt

Y rheolydd data ar gyfer eich data personol yw Swyddfa’r Cabinet. Manylion cyswllt y rheolydd data yw: Cabinet Office, 70 Whitehall, Llundain, SW1A 2AS, neu 0207 276 1234, neu publiccorrespondence@cabinetoffice.gov.uk.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Diogelu Data’r rheolwr data yw: dpo@cabinetoffice.gov.uk.

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor a monitro annibynnol ynghylch defnydd Swyddfa’r Cabinet o wybodaeth bersonol.

Cwynion

Os ydych chi’n ystyried bod eich data personol wedi’u camddefnyddio neu eu cam-drin, gallwch gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, neu 0303 123 1113, neu casework@ico.org.uk. Ni fydd unrhyw gŵyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn amharu ar eich hawl i geisio iawn trwy’r llysoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mawrth 2021

Hysbysiad Cwcis

Mae’r dudalen hon yn disgrifio ein Polisi Cwcis ar gyfer www.choosemypcc.org.uk.

Mae www.choosemypcc.org.uk yn rhoi ffeiliau bach o’r enw ‘cwcis’ ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn pori’r wefan.

Defnyddir cwcis ar gyfer:

  • mesur sut rydych yn defnyddio’r wefan er mwyn ei diweddaru a’i gwella ar sail eich anghenion
  • cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld fel nad oes angen eu dangos i chi eto

Ni ddefnyddir cwcis www.choosemypcc.org.uk er mwyn eich adnabod yn bersonol. Byddwch fel arfer yn gweld neges ar y wefan cyn i ni storio cwci ar eich cyfrifiadur. Dysgwch ragor am sut i reoli cwcis.

Sut y defnyddir cwcis yn www.choosemypcc.org.uk

Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio www.choosemypcc.org.uk.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:

  • sut y cyrhaeddoch y wefan
  • beth rydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan
  • faint o amser y treuliwch ar y wefan
  • faint o amser y treuliwch ar bob tudalen gyswllt rydych yn clicio drwyddi iddynt
  • beth rydych yn ei glicio ar dudalen pan fyddwch wedi’i chyrraedd

Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol e.e. eich enw neu gyfeiriad, felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i adnabod pwy ydych chi. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddeg. Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol:

Dadansoddeg Cyffredinol

Enw Diben Dod i ben
_ga Mae hyn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â www.choosemypcc.org.uk drwy olrhain a ydych wedi ymweld o’r blaen 2 flynedd
_gat Defnyddir i reoli’r gyfradd y gwneir ceisiadau i weld tudalen 10 munud

Google Analytics

Enw Diben Dod i ben
_utma Fel _ga, mae’n dweud wrthym a ydych wedi ymweld o’r blaen, er mwyn i ni allu cyfrif faint o ymwelwyr sy’n newydd i www.choosemypcc.org.uk neu i dudalen benodol 2 flynedd
_utmb Mae hyn yn gweithio gyda _utmc i gyfrifo’r amser rydych yn ei dreulio yn www.choosemypcc.org.uk ar gyfartaledd 30 munud
_utmc Mae hyn yn gweithio gyda _utmb i gyfrifo pan ydych yn cau eich porwr Pan fyddwch yn cau eich porwr
_utmz Mae hyn yn dweud wrthym sut y cyrhaeddoch y wefan (e.e. o wefan arall neu chwilotwr) 6 mis

Ein neges croeso

Pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon am y tro cyntaf, byddwch yn gweld neges naid yn rhoi gwybod bod y wefan yn defnyddio cwcis ac yn gofyn am eich caniatâd i osod cwcis dadansoddeg. Byddwn yn storio cwci fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i gweld ac yn gwybod i beidio â’i dangos eto.

 

Enw Diben Dod i ben
Rheoli Cwcis Mae’n cadw neges sy’n dweud wrthym eich bod wedi gweld ein neges cwcis 3 mis

Aml-iaith

Enw Diben Dod i ben
pll_language Defnyddir i gofio dewis iaith. 1 flwyddyn

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Mawrth 2021