Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Etholiadau CHTh a CHTTh Mai 2024

Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Chomisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu ar 2 Mai 2024.

Mae’r etholiadau nesaf i’w cynnal wedi eu trefnu ar gyfer mis Mai 2028.

Ynglŷn â'ch pleidlais

Mae angen i chi fod wedi cofrestru i allu pleidleisio.

Os nad ydych wedi cofrestru ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Os ydych wedi cofrestru, ac yn gymwys i bleidleisio gallwch naill ai bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post, neu drwy ddirprwy (gan ganiatáu i rywun rydych yn ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan).

Mae CHTh, CHTTh a Meiri sy’n ymgymryd â swyddogaethau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu hethol gan ddefnyddio’r system pleidleisio cyntaf i’r felin, lle mai’r ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Bydd pleidleiswyr yn pleidleisio drwy ddewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Dyma'r un system ag etholiadau Senedd y DU ac etholiadau lleol yn Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth am eich pleidlais ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau

Gwybodaeth am Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu (PCCs) eu hethol gennych chi i oruchwylio sut y delir â throsedd yn ardal eich heddlu chi. Nod y comisiynwyr yw lleihau trosedd ac i sicrhau bod eich heddlu chi yn effeithiol

Rhagor o wybodaeth am PCCs

Eich ardal chi

I gael gwybodaeth am droseddau lleol, plismona a chyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr, yn cynnwys troseddau ar y strydoedd a chanlyniadau ar ffurf mapiau a manylion am eich tîm plismona lleol a chyfarfodydd rhawdiau, ewch i www.police.uk.